DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

Cyhoeddi Fframwaith Polisi'r DU gyfan ar gyfer Sylweddau Ymbelydrol a Pholisi Datgomisiynu

DYDDIAD

16 Mai 2024

GAN

Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

 

 

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru ochr yn ochr â Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cyhoeddi fframwaith polisi newydd wedi'i ddiweddaru ar gyfer datgomisiynu a rheoli sylweddau ymbelydrol. Mae hyn yn dilyn ymarfer ymgynghori cyhoeddus a gynhaliwyd yn ystod gwanwyn 2023. 

 

Llywodraeth y DU sydd yn gyfrifol am ddatblygu polisïau ynghylch ynni niwclear a safleoedd niwclear yn y DU. Fodd bynnag, mae diogelu’r amgylchedd, gan gynnwys gwaredu gwastraff ymbelydrol, yn fater datganoledig i Weinidogion Cymru.

 

Mae ynni niwclear sy'n defnyddio tanwydd niwclear ymbelydrol, yn parhau i ddarparu trydan i gartrefi a busnesau'r DU. Mae'r DU hefyd yn defnyddio sylweddau ymbelydrol mewn llawer o wahanol gynhyrchion a phrosesau i wneud diagnosis o salwch difrifol a’i drin, i ddarparu ymchwil a datblygu, a hefyd mewn prosesau diwydiannol. Mae rhan fwyaf o’r ffyrdd o ddefnyddio deunydd ymbelydrol yn creu gwastraff ymbelydrol, y mae angen ei reoli a bydd angen datgymalu'r cyfleusterau sy'n defnyddio'r math hwn o ddeunydd, gan gynnwys gorsafoedd pŵer niwclear, yn ddiogel ac yn effeithlon ar ôl iddynt roi'r gorau i weithredu.

 

Mae pedair Llywodraeth y DU yn cytuno ei bod yn hanfodol bod gennym fframwaith polisi ar gyfer datgomisiynu a rheoli sylweddau ymbelydrol sy'n addas i ddelio â'n gwastraff gwaddol ac yn addas ar gyfer y dyfodol. Mae’r fframwaith polisi yn egluro fod yn rhaid cynnal safonau o ddiogelwch a diogelu’r amgylchedd wrth reoli a gwaredu sylweddau ymbelydrol. 

 

Mae'r fframwaith polisi a gyhoeddwyd heddiw yn disodli Papur Gorchymyn 2919, Adolygiad o Bolisi Rheoli Gwastraff Ymbelydrol: Casgliadau Terfynol a gyhoeddwyd yn 1995. Mae'n  diweddaru, yn egluro ac yn cyfuno sawl polisi yn un fframwaith polisi ledled y DU ac yn nodi'r  polisïau hynny sy'n cael eu dilyn ar y cyd gan Lywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig. Mae yna grynodeb ar y cyd hefyd o'r ymatebion i'r ymgynghoriad sy'n cael ei gyhoeddi.

 

Ymhellach at yr ymgynghoriad, mae diweddariadau allweddol yn cynnwys sicrhau gallu gwaredu gwastraff llai peryglus ychwanegol yng Nghymru a Lloegr felly galluogi datgomisiynu cyflymach, mwy costeffeithiol a chymesur, gan roi mwy o bwyslais hefyd ar gynnwys datgomisiynu yn rhan o ddyluniad datblygiad prosiectau niwclear. Gallai capasiti gwaredu ychwanegol leihau’r amser y caiff gwastraff ymbelydrol ei storio mewn cyfleusterau cyfredol. Mae’r fframwaith polisi wedi’i ddiweddaru yn rhoi digon o hyblygrwydd i sicrhau y gall yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA) ddatblygu cyfleusterau gwaredu ger yr wyneb, os a phan fydd angen. 

 

Yn gyffredinol, mae'r fframwaith polisi diwygiedig yn creu amcanion polisi cliriach a mwy cyson. Bydd hyn yn galluogi ffyrdd arloesol a chynaliadwy o weithio'n well, ac yn cynnal safonau uchel o ddiogelwch, diogeledd ac o ran diogelu'r amgylchedd.

 

Dolenni

 

Gwefan ymgynghori:

Rheoli sylweddau ymbelydrol a datgomisiynu niwclear - GOV.UK (www.gov.uk)

 

Gwefan ymgynghoriad Llywodraeth Cymru:

Rheoli sylweddau ymbelydrol a datgomisiynu niwclear | LLYW.CYMRU

 

Gwefan Llywodraeth Cymru ar gyfer y fframwaith polisi:

https://www.llyw.cymru/rheoli-sylweddau-ymbelydrol-a-datgomisiynu-niwclear-fframwaith-polisi